Erthygl - Salsa

Ar nos Wener, 4ydd o Dachwedd, aeth yr adran Gymraeg â grŵp o ddisgyblion o flynyddoedd 10, 11 a 12 i’r Grand Pavilion ym Mhorthcawl i weld sioe Gymraeg newydd sbon o’r enw Salsa. Dywedodd y cwmni theatr y byddai’r sioe yn ddigon da i gystadlu yn erbyn Strictly Come Dancing a dylai pawb fynd ag esgidiau dawnsio yn barod am noson llawn hwyl a sbri. Roedd y sioe am bâr priod a oedd wedi colli diddordeb yn ei gilydd ac roedd y wraig, Rhian eisiau mynd i wersi dawnsio er mwyn iddyn nhw ddod i adnabod ei gilydd unwaith eto. Doedd y gŵr ddim yn hapus i fynd - roedd mwy o ddiddordeb ganddo edrych i’r awyr a gwylio’r sêr. Felly, aethon nhw i’r dosbarth ond pan ddaeth yr athrawes ddawnsio mewn - athrawes brydferth iawn, cwympodd Wayne mewn cariad yn syth. Cwympodd Rhian hefyd, ond i’r llawr! Doedd Rhian ddim yn gallu mynd rhagor felly dechreuodd Wayne ddweud celwydd wrthi hi - dywedodd ei fod yn mynd am dro ond roedd e am fynd i ddawnsio gyda’r athrawes ddawnsio - Adela Vegas. Darganfu Wayne yn syth bin ei fod e’n dda iawn yn dawnsio a gofynnodd Adela iddo fe ddawnsio gyda hi mewn cystadleuaeth ddawnsio. Ond….cawson nhw eu darganfod gan Rhian a doedd hi ddim yn hapus gan fod Wayne wedi mynd tu ôl i’w chefn. Wrth lwc, aeth Rhian i’r gystadleuaeth a gwelodd hi Wayne wrth ei fodd yn dawnsio a gadawon nhw gyda’i gilydd wedi cymodi. Roedd hi’n sioe hynod o ddoniol ac roedd pawb yn gwenu o glust i glust! Ar ôl i’r sioe orffen, cafodd y disgyblion y cyfle i fynd ar y llwyfan i ddangos eu sgiliau dawnsio nhw - profiad bythgofiadwy yn wir!